Bwncath - Castell Ni

Copied!edit Lyrics
original text at lyrnow.com/2069386
Yma mae 'nghalon yn curo
Ac yma 'dw i'n troedio y stryd
Dyma fy lle
Yma'n y dre’
Dyma ganol fy myd

Yma ma'n ffrindiau a'n nheulu
A ninnau'n un teulu i gyd
Dyma fy llef
I bawb yn y dref;
Dewch i ganu ynghyd

Mae 'nghalon yng nghanol Caernarfon
Hon yw dinas fy myd
Ei hiaith yn llifo fel afon
Rhwng ei muriau o hyd

Ac ambell i dro fydda’ i'n cofio
Am boen yr holl frwydro a fu
Ond dysgu a wnawn
Defnyddiwn ein dawn
I ailgynnau ein ffydd

Ac yna fe godwn ein tyrrau
Agorwn ein drysau i'r byd
Mae croeso’n y dre
I bawb o bob lle
Dewch i ganu ynghyd
‘Dw i am aros, aros yn driw iddi hi
Adeiladwn ei thyrrau o'r llawr
Yn awr yn gastell i ni

Mae 'nghalon yng nghanol Caernarfon
Hon yw dinas fy myd
Ei hiaith, yn llifo fel afon
Rhwng ei muriau o hyd
O caraf, mi garaf Caernarfon
O mor werthfawr yw hi
Mor glir â dŵr yr afon
Ydy hynny i mi

‘Dw i am aros, aros yn driw iddi hi
Adeiladwn ei thyrrau o'r llawr
Yn awr yn gastell i ni

Mae 'nghalon yng nghanol Caernarfon
Hon yw dinas fy myd
Ei hiaith, yn llifo fel afon
Rhwng ei muriau o hyd
O caraf, mi garaf Caеrnarfon
O mor werthfawr yw hi
Mor glir â dŵr yr afon
Ydy hynny i mi
 
0

Song Description:

edit soundcloud

SoundCloud:

edit soundcloud

More Bwncath lyrics

Bwncath - Castell Ni
Yma mae 'nghalon yn curo Ac yma 'dw i'n troedio y stryd Dyma fy lle Yma'n y dre’ Dyma ganol fy myd Yma ma'n ffrindiau a'n nheulu A